Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 15 Gorffennaf 2019

Amser: 12.45 - 16.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5461


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Gareth Bennett AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Andrew Slade, Llywodraeth Cymru

Simon Jones, Llywodraeth Cymru

Andy Falleyn, Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Alan Brace, Llywodraeth Cymru

Helen Arthur, Llywodraeth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru:

Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Andrew Minnis (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

1.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad drafft diwygiedig y tu allan i'r Pwyllgor.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i'w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar FyNgherdynTeithio ac Addasiadau Tai ac ar y taliadau arbennig a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

</AI3>

<AI4>

3.1   Cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Mehefin 2019)

</AI4>

<AI5>

3.2   Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (4 Mehefin 2019)

</AI5>

<AI6>

3.3   Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (5 Gorffennaf 2019)

</AI6>

<AI7>

3.4   Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI7>

<AI8>

4       Ffordd Liniaru'r M4: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r costau yr aed iddynt ar Ffordd Liniaru'r M4.

4.2 Cytunodd Andrew Slade i ddarparu'r canlynol:

·         Cyfanswm y gost net ar gyfer datblygiad yr M4 - gan restru fesul eitem gyfanswm costau’r datblygiad ynghyd â’r costau dirwyn i ben ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill, namyn unrhyw elw a wnaed o werthu’r eiddo a gaffaelwyd, incwm arall neu gostau a adenillwyd.

·         Copïau o Adroddiad Dewisiadau Amgen a awgrymwyd gan Wrthwynebwyr ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (Mawrth 2017)

·         Dadansoddiad o'r gwaith twnelu arfaethedig o dan Lefelau Gwent, sut y cafodd y costau hyn eu meincnodi, a pha ganran oeddent o gostau cyffredinol y dewisiadau eraill

·         Yr amserlen ar gyfer gwaredu'r eiddo sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru

 

</AI8>

<AI9>

5       Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

5.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall y byddai yn:

·         Rhoi'r manylion o'r ymarfer recriwtio allanol diweddar i benodi Cyfarwyddwr Trawsnewid BIPBC

·         Rhoi disgrifiad, ynghyd ag enghreifftiau, o'r hyn sydd wedi cael ei ariannu fel rhan o'r Gronfa Drawsnewid

5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda nifer o gwestiynau am y defnydd o staff asiantaeth yn GIG Cymru.

</AI9>

<AI10>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

6.1 Cytunwyd ar y cynnig a oedd hefyd yn cynnwys y cyfarfod ar 16 Medi 2019.

</AI10>

<AI11>

7       Ffordd liniaru'r M4: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI11>

<AI12>

8       Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>